Rhannau o'r Haul
Cymer daith i mewn i seren. O'r ffwrnais niwclear yn y canol i'r goron ddisglair sy'n ymestyn am filiynau o filltiroedd — mae chwe haen i'w darganfod.
Toriad croes drwy'r Haul
Y Cnewyllyn
Y ffwrnais niwclear sy'n rhoi pŵer i'n System Heulol gyfan.
Yng nghanol yr Haul, mae protonau Hydrogen yn cael eu gwasgu mor galed nes eu bod yn toddi gyda'i gilydd i wneud Heliwm. Yr enw ar y broses hon yw ymdoddiant niwclear.
Mae 64% o'r Cnewyllyn yn Heliwm a 35% yn Hydrogen. O dan bwysedd anferthol mae 4,500,000 tunnell o fater yn cael eu newid yn egni bob eiliad — caiff yr egni hwnnw ei ryddhau ar ffurf Pelydrau Gama.
Yr Haen Ymbelydrol
Cylchfa enfawr lle mae golau yn brwydro am filiynau o flynyddoedd i ddianc.
Mae'r haen yma'n llawn o nwyon trwchus. Mae'r Pelydrau Gama sy'n dod o'r Cnewyllyn yn cael eu boddi gan y nwyon — yn taro, bownsio a chael eu hamsugno drosodd a throsodd.
Wrth iddynt symud o gwmpas, mae'r Pelydrau Gama'n cael eu newid yn Belydrau X ac yn Belydrau UV. Gall un pelydryn gymryd hyd at 10 miliwn o flynyddoedd i weithio'i ffordd allan o'r haen hon!
Yr Haen Darfudiad
Cawl berwedig o nwy poeth, yn troi mewn cylchoedd anferth fel pot ar dân.
Yn y rhan yma o'r Haul mae'r nwyon yn ddigon oer i ddarfudiad ddigwydd. Mewn cylchoedd anferth a stormus, mae nwy poeth yn codi i fyny tuag at y Ffotosffer, yn cludo egni gydag ef.
Ar ôl i'r nwy oeri ar yr wyneb, mae'n disgyn yr holl ffordd yn ôl tuag at ganol yr Haul i ddechrau'r un patrwm unwaith eto. Mae hyn yn digwydd yn ddi-baid, am byth.
Y Ffotosffer
Yr 'wyneb' melyn rwyt ti'n ei weld — yr haen sy'n rhyddhau golau'r Haul.
Mae'r Ffotosffer yn denau iawn — dim ond tua 100 milltir o ddyfnder — ond hwn yw'r haen sy'n rhyddhau'r holl egni sy'n cyrraedd y planedau.
Mae'r wyneb yn llawn stormydd tân a all fod weithiau yr un maint â chorwyntoedd anferth. Fel gweddill yr Haul (heblaw'r Cnewyllyn), mae'n cynnwys 75% Hydrogen, 24% Heliwm ac 1% o elfennau eraill.
Y Cromosffer
Haen binc, hanner-gweladwy — dim ond i'w gweld pan fo eclips.
Mae'r Cromosffer yn haen o nwyon hanner-gweladwy. Y ffordd orau o'i weld yw drwy ffiltrau arbennig neu pan fo eclips llawn yn cuddio'r Ffotosffer.
Mae'n weddol denau — rhwng 6,000 a 10,000 milltir o dew. Mae arddangosfeydd o dafodau hir o nwy i'w gweld yn ymestyn allan o'r haen hon, weithiau am gannoedd o filoedd o filltiroedd.
Y Corongylch
Y goron — haen allanol yr Haul, llawer poethach na'r wyneb ei hun.
Y Corongylch yw haen allanol yr Haul. Mae'n 100,000 gwaith tywyllach na'r Ffotosffer, ac nid yw'n hollol grwn — mae'i siâp yn newid drwy'r amser.
Mae llifoedd o nwyon gwyllt yn ymestyn allan ohono, weithiau am gannoedd o filoedd o filltiroedd i'r gofod. Anodd iawn yw gweld yr haen hon heblaw mewn eclips neu drwy delesgop arbennig.
Archwilia ymhellach
Adnodd gwreiddiol o brosiect Fflam 1999, wedi'i adfer a'i foderneiddio.