Yn ôl i'r Hafan
Yr Haul

A Wyddost Ti?

Casgliad o ffeithiau rhyfeddol am ein seren — wedi'u tynnu o'r wefan wreiddiol.

Maint

O'i gymharu â sêr eraill, mae'r Haul yn gyffredin iawn. Mae rhai sêr fel Seriws B a'r Blaidd Coch yn llai iawn o'i gymharu, ond mae Delta Orion ac Antares Coch Enfawr yn llawer mwy nag ef. Mae gan Antares y Cawr Coch Enfawr ddiamedr sydd 300 gwaith mwy nag ein Haul ni.

O'i gymharu â'r Ddaear, mae'r Haul yn sffer perffaith. Mae ganddo ddiamedr o 865,000 milltir, a byddai angen 109 o Ddaearau wedi'u rhoi wrth ei gilydd i ymestyn ar draws yr Haul yn unig!

Gallai 1 miliwn o Ddaearau ffitio'n gyfforddus yn yr Haul, gyda digon o le i'w sbario wedyn! Mewn termau eraill, os am yrru car ar draws yr Haul ar gyflymder cyfartalog o 55 milltir yr awr, byddai'n cymryd 55.5 o flynyddoedd i fynd ar draws ei ddiamedr!

OND nid yw maint yr Haul yn aros yr un fath — yn wir, mae darganfyddiadau'n dangos bod maint yr Haul yn lleihau troedfedd bob awr.

Ffeithiau diddorol

Yr Haul yn y Llwybr Llaethog
  • Seren yw'r Haul, ac mae dros 10 biliwn o sêr yn y Llwybr Llaethog!
  • Mae'r Haul yn cymryd 200 miliwn o flynyddoedd i gylchdroi o amgylch y Galaeth un waith!
  • Mae'r holl egni o'r Haul yn cael ei gynhyrchu o Ymdoddiant Niwclear.
Rhybudd
Peidiwch byth ag edrych ar yr Haul drwy sbienddrych — gall ddifrodi eich golwg neu hyd yn oed eich gwneud yn ddall.

Mas a Dwysedd

Mae'r Haul mor anferth fel ei fod yn 99.86% o'r holl fater sydd yn y System Heulol. Mae mâs yr Haul yn gyfystyr â 332,950 o Ddaearau.

Mae'r dwysedd sydd i'w gael ar yr Haul yn amrywio. Mae'r nwyon sydd yn y Ffotosffer yn ysgafn iawn — byddent yn cael eu hystyried fel pŵer sugno yma ar y Ddaear. Ond mae'r mater sydd yn y Cnewyllyn yn ddwys iawn, a byddai potel fach ohono yn pwyso mwy na'r hyn yr ydych chi'n ei bwyso yma ar y Ddaear!

332,950 Daear1 HaulMÂS · CYDBWYSEDD
332,950 o Ddaearau'n cydbwyso'n berffaith ag 1 Haul.

Maint Gweledol

Gellir gweld o'r darlun isod sut y mae'r Haul yn edrych o'r planedau gwahanol.

Yr Haul o Mercher

Cylch Bywyd yr Haul

Mae cylch bywyd sêr fel yr Haul yn hir iawn. Mae gwyddonwyr yn gallu astudio cylch bywyd sêr drwy edrych ar sêr gwahanol mewn cyfnodau gwahanol yn eu bywyd. Maent felly'n gallu darganfod sut mae sêr cyffredin yn byw a marw.

Rhaid cofio fodd bynnag nad yw pob seren yr un fath ac felly nid ydynt yn dilyn yr un cylch bywyd. Bydd cylch bywyd seren yn dibynnu'n fawr ar fâs y seren. Bydd sêr mawr a thrwm yn cael bywyd byr, tra bo sêr llai yn byw am oes a gaiff ei mesur mewn cannoedd o biliynau o flynyddoedd.

Genedigaeth Seren

Bydd seren yn ffurfio pan fo mater o fewn Nifwl yn hel gyda'i gilydd. Bydd y mater yn hel gyda'i gilydd, ac mewn amser bydd yn rhyddhau egni ar ffurf golau a gwres. Bydd seren bob amser yn fwyaf dwys a phoeth yn y canol, neu yn y craidd.

Bydd y tymheredd yn codi'n raddol i filiynau o raddau. Pan fo'r gwres yn codi'n uwch na 10,000,000 °C, bydd adweithiau niwclear yn cymryd lle yn y nwy. Bydd yr egni sydd yn cael ei ryddhau yn cynnwys ymbelydredd, sy'n cael ei ddargludo i'r gofod.

Nifwl — seren yn marw a mater yn cael ei chwythu i'r gofod
Y cyfnod mewn seren pan fo mater yn cael ei chwythu oddi wrthi — y seren yn marw, a mater yn cael ei chwythu i'r gofod.

Tymheredd yr Haul

Wyneb yr Haul yn dangos smotiau a fflachiadau

Tymheredd cyfartalog yr Haul yw 11,000 °F. Mae Smotiau Haul yn oerach, tra bo Fflachiadau Heulol yn llawer poethach.

Pwls

Pwls · 2 awr 40 munud
Δ ~6 milltir · 4 mya

Yn ddiweddar, cafodd astudwyr Heulol eu synu'n fawr gan ymddygiad yr Haul. Mae'n ymddangos bod yr Haul yn newid ei faint bob 2 awr a deugain munud ar gyflymder o 4 milltir yr awr. Bydd diamedr yr Haul yn amrywio oddeutu 6 milltir, felly!