Yr Haul
Cylchdro yr Haul

Fel pob Planed yn y System Heulol, mae'r Haul hefyd yn cylchdroi ar ei echel. Fel y gwelsom, mae'r Haul yn enfawr, ac yn llawn nwyon sydd yn rhy boeth i unrhyw soled fedru bodoli arno. Gan ei fod wedi ei wneud o nwyon, mae rhannau gwahanol ohono yn rhydd i gylchdroi fel y mynnant.
Mae rhannau Cyhydeddol yr Haul yn cylchdroi yn llawn oddeutu un waith bob 25 diwrnod ar gyflymder o 4,500 milltir yr awr. Mae'r pegynau, ar y llaw arall, yn cylchdroi yn arafach — dim ond un waith bob 34 diwrnod.
Mae'r gwahaniaeth yma yn gyfrifol, yn ôl rhai gwybodyddion, am Smotiau Haul.