Yn ôl i'r Hafan
Yr Haul

Dirgelwch yr Haul

Darlun o ddirgelwch tymheredd yr haul

Yn haenau allanol yr Haul mae dirgelwch mawr. O gael tymheredd o 250,000,000 gradd Farenheit yn y Cnewyllyn, mae'r gwres yn lleihau i 11,000 gradd Farenheit yn y Ffotosffer.

Yn ôl pob theori Ffisegol, dylai'r gwres ddisgyn y tu hwnt i'r pwynt yma — ond nid yw hyn yn wir yn yr Haul. Am ryw reswm, mae'r gwres yn codi yn y Cromosffer ac yn codi'n uwch fyth yn y Corongylch.

Efallai, erbyn yr amser yr ydych chi yn darllen y dudalen hon, y bydd y broblem wedi ei datrys. Efallai, mai chi fydd yr un i'w datrys!