Yn ôl i'r Hafan
Yr Haul

Nodweddion yr Haul

Diagram yn dangos prif nodweddion yr haul

Mae gan yr Haul lawer o brif nodweddion gwahanol. Pori isod i ddysgu mwy am bob un — o'r tywysennigau anferth sy'n codi o'r cromosffer i'r smotiau oer sy'n britho'r wyneb.

Tywysennig

Yn y Cromosffer bydd breichiau anferth o nwyon yn codi a gostwng ac yn cyrraedd y Corongylch. Gall y tywysenigau yma barhau am hyd at 10 munud, ac maent yn cyrraedd cyflymder o ddeuddeg milltir yr eiliad.

Gronynnau

Mae gronynnau yn yr Haul yn fawr! Nwyon ydynt mewn celloedd, ac maent wedi'u gwasgaru ar hyd y Ffotosffer. Mae pob gronyn gymaint â chorwynt ac yn rhoi cymorth mawr i wasgaru'r egni o'r Haen Darfudiad i'r gofod. Ni fydd y gronynnau yma yn parhau am lawer o amser — dim ond oddeutu 8–10 munud.

Alldafliad

Mae'r olygfa o weld alldafliad yn dod o'r Haul yn un o'r rhai mwyaf anhygoel y gellid ei weld. Mae'n bodoli pan ddaw nwyon allan drwy arwyneb yr Haul — byddent yn deillio yn aml o amgylch Smotiau Haul oherwydd grymoedd y maesydd magnetig. Gallant ddatblygu fel colofnau, bwa neu gylchoedd cyflawn!

Bydd alldafliadau ffrwydroadol yn anferth — byddant yn ffrwydro oddi ar arwyneb poeth yr Haul ac yn cyrraedd cyflymder uchel o 1,000,000 milltir yr awr.

Record
Yr alldafliad mwyaf erioed i gael ei gofnodi oedd ar 4 Mehefin 1946. Ar ôl hanner awr yn unig roedd wedi cyrraedd 250,000 o filltiroedd i ganol y gofod — pedair gwaith y pellter rhwng y Lleuad a'r Ddaear. Roedd wedi gorffen ar ôl tair awr.

Gwyntoedd Heulol

Yn atmosffer yr Haul mae gwyntoedd cryfion yn bodoli. Yn y gwyntoedd yma bydd gronynnau atomig yn cael eu chwythu'n wyllt ar gyflymder o 2 filiwn milltir yr awr!

Wrth i'r gwynt chwythu bydd 3,000 tunnell o fater yn cael ei chwythu i'r gofod bob awr!

Fflach Heulol

Fflachiadau enfawr o dân yn deillio o arwyneb yr Haul yw Fflach Heulol. Byddant yn parhau am funudau ac weithiau am oriau! Fel yr alldafliad, maent yn cael eu hachosi gan faesydd magnetig cryf a chan ddigwyddiadau mewn smotiau haul.

Gall un Fflach Heulol ollwng egni sydd yn gyfystyr â miliwn o fomiau Hydrogen! Byddant yn hyrddio gronynnau niwclear i'r gofod ar gyflymder llawer mwy na'r Gwyntoedd Heulol. Gall fflachiadau enfawr effeithio ar radio a theledu ar y Ddaear.

Fflach 7 Awst 1972
Roedd y fflach yma yn ddigon i ddiffodd y trydan mewn nifer o gartrefi ar hyd y wlad ac i ddifrodi'r system ffôn. Petai gofodwr yn y gofod ar y pryd, byddai'r ymbelydredd yn ddigon iddo gael ei ladd yn syth. Mae'n ffodus iawn felly mai dim ond weithiau y mae fflachiadau fel hyn yn digwydd.

Smotiau Haul

Cafodd smotiau haul eu gweld gyntaf 300 Cyn Crist! Dydyn nhw ddim yn bethau newydd, felly. Maent mewn siapiau soseri ar wyneb yr Haul, ac maent yn oerach na gweddill yr Haul — dim ond 8,000 °F.

Enw'r rhan oren yn y smotyn yw Penwmbra, ac enw'r rhan dywyllach yw Wmbra. Yn Awst 1974 cafodd y smotyn haul mwyaf erioed ei gofnodi — roedd yn ddigon mawr i gynnwys 100 Daear!

Bydd smotiau haul yn diflannu ar ôl ychydig wythnosau, er bod rhai yn parhau am hyd at 18 mis o bryd i'w gilydd. Maent yn ardaloedd o faesydd magnetig dwys iawn, ac yn aml byddant yn ymddangos mewn grwpiau — yn aml mewn mannau cyfatebol yn y De a'r Gogledd. Mae gan smotiau haul gylch bywyd o 11 mlynedd.

Theori datblygiad smotiau haul

Y theori sydd yn cael ei derbyn fwyaf ynglŷn â datblygiad smotiau haul yw theori maesydd magnetig, pan fo cylch heulol yn dechrau:

  1. Mae llinellau grymoedd magnetig yn rhedeg o Begwn y Gogledd i Begwn y De. Bydd cyhydedd (canol) yr Haul yn troi'n gynt na'r pegynau, felly bydd y maesydd yn cael eu tynnu yn groes i bob cyfeiriad.
  2. Bydd llinellau'r maesydd yn ymestyn yn bellach ac yn bellach o amgylch y cyhydedd.
  3. Ar ôl cylchdroi llawer o weithiau bydd y llinellau yn tynhau cyn hollti a malu yn y Ffotosffer. Yna bydd smotiau haul yn ymddangos.