Yr Haul
Lluniau o'r Haul
Croeso i'r dudalen luniau. Yma cewch weld lluniau diweddar o'r Haul, a chyfle i ddysgu amdano drwy edrych arnynt.

'Yr Haul Yn Tisian'
Mae'n anodd iawn gweld Alldafliadau sydd yn arwain at y Ddaear. Dyma lun yn dangos Alldafliad o'r Haul tuag at y Ddaear. Trawodd yr Alldafliad yma y llong ofod ar Tachwedd 18, 1996.

Fflachiadau Heulol
Mae'r Fflachiadau Heulol sydd yn dod o haenau allanol yr Haul yn ymestyn allan yn bell iawn i'r gofod. Mae'r Fflach a welwn yn y llun yn ymestyn ddegau o filoedd o gilomedrau i'r gofod.

Arwyneb Chwilboeth Yr Haul
Mae'r llun yma wedi ei gymryd drwy edrych yn syth ar arwyneb yr Haul. Mae'n mesur 200,000 km wrth 200,000 km. Byddai'r Ddaear gyfan yr un maint ag un o'r darnau gwyn ar ochr chwith y llun. Mae'r tymheredd yn amrywio rhwng 20,000, 250,000 ac 1 miliwn gradd Celsiws.