Yn ôl i'r Hafan
Yn ôl i'r Ddaear
Y Lleuad

Cysgodi (Eclipse)

Cysgodi heulol

O bryd i'w gilydd, bydd y Lleuad yn symud o flaen yr Haul. Bydd hyn yn atal golau'r Haul, ac felly yn creu Cysgodi Heulol (Solar Eclipse).

Bydd Cysgodi Heulol yn digwydd o leiaf ddwy waith bob blwyddyn, ac yn ystod Cysgodi Heulol bydd cysgod y Lleuad yn disgyn ar wyneb y Ddaear. Mae cysgodi llwyr yn anghyffredin iawn — eleni gwelwyd un ym Mhrydain am y tro cyntaf ers canrifoedd.

Pan fo'r Haul wedi'i orchuddio'n llwyr, daw'r nwyon o'i amgylch i'r amlwg. Gall cysgodi heulol llawn fodoli am hyd at 7.5 munud, ond mae 2 i 3 munud yn llawer mwy cyffredin.

Pelydrau o gwmpas yr Haul yn ystod cysgodi llwyr

Sut mae'r Cysgodi'n digwydd

Diagram o sut mae'r cysgodi'n digwydd ar wyneb y Ddaear