Y Ddaear
Lluniau o'r Ddaear

Y Cymylau
Dyma'r cymylau sydd yn gorchuddio llawer iawn o'r Ddaear. Mae'r cymylau'n bwysig iawn i fywyd dynol — maent yn darparu'r tywydd priodol er mwyn sicrhau bywyd ar y Ddaear. Y cymylau sy'n cario'r glaw, ac mae'n diolch ni fel bodau dynol yn fawr iawn iddynt.

Y Ddaear o'r Llong-Ofod 'Galileo'
Tynnwyd y llun yma gan y Llong-Ofod Galileo. Fe'i tynnwyd uwchben Antarctica a De Affrica. Mae lluniau wedi'u tynnu gan loeren fel Galileo yn bwysig iawn i ddealltwriaeth gwyddonwyr o'r gofod.

Anwedd Dŵr
Gallwn weld o'r darlun yma fod llawer iawn o anwedd dŵr yn bodoli yn yr atmosffer. Tynnwyd y darlun gan ddefnyddio camerâu arbennig wedi eu gosod ar Loeren yn y Gofod.