Yn ôl i'r Hafan
Y Ddaear

A Wyddost Ti?

Maint a Thymheredd

Maint y Ddaear

Mae diamedr o amgylch y Ddaear o 7,926 milltir. Yn wahanol i goel yn yr hen amser, mae'r Ddaear yn sffer ac nid yw'n fflat! Er dweud hyn, nid yw'n sffer perffaith gan fod amrywiant yn y tirwedd.

Y Ddaear yw'r blaned fwyaf rhwng yr Haul ag ef ei hun — mae'n fwy o ran maint na Mercher, Gwener a Mawrth, ond nid yw'n fwy na'r planedau sydd y tu allan iddo fel Iau a Sadwrn.

Petaech yn gyrru car o amgylch y cyhydedd ar gyflymder cyfartalog o 55 milltir yr awr, heb aros i gysgu na bwyta, byddai'n cymryd 19 diwrnod i fynd o amgylch y byd!

Tymheredd

Tymheredd ar y Ddaear

Y tymheredd cyfartalog ar y Ddaear yw 15 °C, er ei fod yn amrywio o le i le. Mae'n oer iawn ar y pegynau, ond ar y cyhydedd mae'n chwilboeth. Mae'r tymheredd isaf yn −127 °F tra bo'r tymheredd uchaf yn +136 °F.

Ffeithiau cyffredinol

Y Ddaear yn codi dros y Lleuad
Y Ddaear yn codi dros y Lleuad.

Mae'r Ddaear yn arbennig iawn o fewn Cysawd yr Haul oherwydd y gall dŵr fodoli yma mewn tair prif ffurf — nwy, hylif neu rew. Nid yw hyn yn wir ar unrhyw un o'r planedau eraill.

Mae'r dŵr yn arbennig ac yn bwysig, yn enwedig fel hylif, gan ei fod yn caniatáu bywyd ar ein planed — y dŵr yw ffynhonnell pob bywyd. Mae bywyd yn beth prin iawn; nid yw'n bodoli ar unrhyw blaned arall yn Cysawd yr Haul.

Mae gan y Ddaear un Lleuad, ac mae llawer o bethau byw yn ei ddefnyddio fel rhyw fath o gloc!

Mas a Dwysedd

Y Ddaear yw'r blaned drymaf rhwng yr Haul ac yma. Yn wir, rhaid cael Plwto ynghyd â Mercher, Gwener, Mawrth a'r Lleuad er mwyn cydbwyso â mâs y Ddaear.

Amcangyfrifir bod y Ddaear yn pwyso 6.6 biliwn triliwn o dunelli. Mae'n cynnwys digon o fater i wneud ceir o'r Ddaear i ben draw'r Llwybr Llaethog!

Mâs y Ddaear o'i gymharu â'r blanedau eraill

Atmosffer a Thywydd

Mae'r haen o nwyon sydd yn amgylchynu'r Ddaear yn chwarae rhan bwysig iawn mewn gwarchod bywyd ar y Ddaear. Mae'n ein hamddiffyn rhag pelydrau ymbelydrol yr Haul, yn ogystal ag awyrfaenau (meteorite) o'r gofod.

Ynghyd â'r pellter oddi wrth yr Haul, mae'n golygu bod dŵr yn bodoli yma ar y Ddaear fel hylif. Bydd dŵr a Charbon Deuocsid yn cael eu newid mewn proses a elwir yn Ffotosynthesis gan blanhigion er mwyn tyfiant. Bydd anifeiliaid wedyn yn eu tro yn bwyta'r planhigion, ac felly mae'r cylch bywyd yn parhau.

Mae'r amgylchiadau yn yr Atmosffer yn newid hefyd — gelwir hyn yn dywydd. Mae angen tywydd ffafriol iawn er mwyn i blanhigion dyfu.