Yn ôl i'r Hafan
Yn ôl i'r Ddaear
Y Lleuad

A Wyddost Ti?

Ffeithiau cyffredinol

Safnau (craters) ar y Lleuad
Safnau a achoswyd gan awyrfaenau. Tynnwyd y llun gan loeren ar ochr dywyll y Lleuad.

Mae'r Lleuad yn agos iawn atom yma ar y Ddaear, a gallwn weld llawer o'i nodweddion drwy edrych arno yn y nos. Ond er dweud hyn, dim ond un ochr o'r Lleuad yr ydym erioed wedi ei weld — mae un ochr yn wynebu i ffwrdd bob amser.

Mae llawer o safnau (craters) yn wyneb y Lleuad, ac maent i gyd wedi'u hachosi gan wrthdrawiad ag awyrfaenau (meteorides) o'r gofod. Mae'r safnau'n amrywio'n fawr o ran maint — rhwng cwpwl o droedfeddi i gan milltir mewn diamedr! Gellir gweld 30,000 o safnau o'r Ddaear gyda telisgop bach!

Enw'r corff
Y Lleuad
Diamedr
3,476 km (2,160 milltir)
Tymheredd cyfartalog
−18 °C

Maint a Thymheredd

Maint y Lleuad o'i gymharu ag America

Mae diamedr y Lleuad — sef 2,160 milltir — yn agos iawn at fod cymaint â diamedr America. Efallai ryw ddiwrnod y byddwn yn sôn am y Lleuad fel petai'n wythfed cyfandir i'r Ddaear!

Mae'r Lleuad bron â bod yn sffer perffaith, ond mae gwyddonwyr o'r farn bod yr ochr sy'n wynebu'r Ddaear yn gwyro tuag atom o hanner milltir. Petai'r Ddaear yn cael ei droi'n bêl-droed, byddai'r Lleuad yn bêl tenis.

Y tymheredd cyfartalog ar y Lleuad yw −18 °C — mae hyn yn oer iawn o'i gymharu â thymheredd cyfartalog o 15 °C ar y Ddaear!

Mas a Dwysedd

Byddai angen mâs 81 Lleuad er mwyn cyfateb i fâs 1 Ddaear. Mae'r Lleuad yn pwyso 81 biliwn biliwn o dunelli.

Gan fod y Lleuad yn llai na'r Ddaear, mae'r disgyrchiant yn llai yno. Mae hyn yn golygu petaech yn pwyso 100 kg yma ar y Ddaear, byddech yn 17 kg ar y Lleuad.

Mae pethau'n disgyn yn arafach ar y Lleuad — h.y. petaech yn gollwng wy ar y Lleuad, byddai'n disgyn yn ddigon araf i beidio â thorri!

Diagram disgyrchiant ar y Lleuad