Yn ôl i'r Planedau
Y Planedau

Wranws

Trosolwg

Nodweddion Cyffredinol

Nodweddion Cyffredinol Wranws Cawr oer o nwy , dyma y mae llawer o wyddonwyr yn galw Wranws. Hi yw'r dyrydedd blaned fwyaf yn Cysawd yr Haul. Y nodwedd mwyaf rhyfeddol am y blaned hon yw bod ei hechel yn syth drwy'r dwyrain i'r grollewin , ac felly mae'n ymddangos ei bod yn cylchdroi o amgylch yr Haul ar ei ochr. Astronomegwr o'r enw William Hershel o Loegr a ddaeth o hyd i'r blaned hon yn 1781 . Gallwn weld o edrych ar y diagram cyferbyn pa mor fawr yw Wranws o'i gymharu gyda y Ddaear. Mae diamedr Wranws yn mesur 51,100 Km , mae hyn ryn fath a pedwar gwaith y Ddaear.

Wranws — Nodweddion Cyffredinol
Strwythur

Nodweddion Eraill

Nodweddion Daearyddol Wranws Mae gan wranws 11 o Fodrwyon tennau a 17 Lleuad . Canfyddwyd 2 Leuad newydd yn ddiweddar , i gyrraedd y rhif uchel yma . Atmosffer a Thywydd Mae Wranws wedi ei orchuddio mewn cymylau o Fethan sydd yn amsugno golau coch . Dyma sydd yn gwneud i'r blaned ymddangos yn las golau neu yn wyrdd. Nid oes unrhyw nodwedd arall yn perthyn i'r Blaned yn allanol , ond mae ambell i gwmwl disglair wedi ei weld gan Long-Ofod Hubble yno . Mae ongl anghyffredin yr echel yn golygu bod y ddau begwn sydd i'r Blaned yn cael 42 blwyddyn o Haul , ac yna 42 blwyddyn o dywyllwch .

Wranws — Nodweddion Eraill
Wyneb

Tirwedd

Tirwedd Wranws Arwahan i ychydig o gymylau ysgafn , nid oes unrhyw nodwedd arbennig yn perthyn i Wranws .

Wranws — TirweddWranws — Tirwedd
Awyr y nos

Gweld o'r Ddaear

Gweld Wranws Gyda amgylchiadau arbennig gall Wranws gael ei weld gyda'r llygaid o'r Ddaear . Mae'n eithaf hawdd ei ddarganfod gyda ysbienddrych bach (Binoculars) hyd yn oed mewn ardal drefol . Wrth chwyddo 500 gwaith bydd y blaned yn ymddangos yr un main ag y mae y Lleuad i ni gyda llygaid o'r ddaear . Gellir gweld isod dabl seryddol sydd yn dangos symudiadau Wranws rhwng 1999-2000 .

Wranws — Gweld o'r Ddaear
Oriel

Lluniau

Lluniau o Wranws Fel y Planedau nwy eraill , mae gan wranws hefyd gylchoedd o'i amgylch . Hefyd mae ganddo gymylau sydd yn chwythyn gyflym o'i gwmpas , mae'n anodd iawn gweld y rhain , ond gellir eu gweld drwy gyfoethoci lluniau Voyager 2 , fel y gwelir ar y dde. Mae gan Wranws 15 Lleuad gyda enw a dau , newydd eu darganfod heb enw eto . Mae'r Lloereni yma yn cylchdroi o amgylch Wranws mewn Orbid berffaith h.y. mewn cylch perffaith o angylch y Blaned .

Wranws — LluniauWranws — Lluniau

Adnodd addysgol gwreiddiol o 1999, wedi'i adnewyddu ar gyfer dysgwyr heddiw.