Yn ôl i'r Planedau
Y Planedau

Neifion

Trosolwg

Nodweddion Cyffredinol

Nodweddion Cyffredinol Neifion Neifion yw'r blaned nwy sydd agosaf at gyrion Cysawd yr Haul . Fel wranws mae'r atmosffer yn llawn Hydrogen , Heliwm Methan ac mae gonddo gylch o'i amgylch . Yn 1846 , y cafodd y blaned hon ei chanfod ar ôl i'w safle gael ei ragweld , wedi ei selio ar waith mathemategol gan seryddwyr . Gallwn weld oddi ar y darlun cyferbyn bod Neifion 4 gwaith yn fwy na'r ddaear , ac yn mesur 49,5000 km o ddiamedr .

Neifion — Nodweddion Cyffredinol
Strwythur

Nodweddion Eraill

Nodweddion Daearyddol Neifion Mae atmosffer Neifion a Wranws yn debyg iawn. Un ffaith angebyg yw bod llawer mwy o dywydd drwg ar neifion ac mae hyn yn golygu bod gwyntoedd uchel iawn yno . Hefyd mae Neifion yn las golau , o'i gymharu gyda gwyrdd golau sydd yn Wranws. Achosir hyn oherwydd bod llawer mwy o Fethan yn yr atmosffer yn Neifion , o'i gymharu gyda Wranws . Yn 1989 darganfyddodd y Llong-Ofod Voyager bod gan Neifion Smotyn Mawr Tywyll , fel y Smotyn Mawr Coch sydd gan Iau. Mae crombil Neifion yn debyg iawn i grombil Wranws , ac yn cynnwys sylweddau fel Amonnia , dwr , a Methan uwch ben Cnewyllyn sydd yn garreg i gyd . Lleuad Mae gan Neifion wyth Lleuad , Triton yw'r pwysicaf , oherwydd mai ef yw'r mwyaf , gyda diamedr o 2,700 Km . Mae arwyneb Triton wedi ei orchuddio gan rew Neitrogen a Methan , ac ar 0235 gradd celciws dyma'r lle oeraf yn Cysawd yr Haul. Mae rhai yn credu bod Triton wedi bod yn Blaned annibynol , ond wedi ei dal gan ryw disgyrchiant Neifion wrth bashio'n agos . Mae Triton yn fwy na Plwto , ac mae llawer yn credu eu bod yn debyg . Dyma lun o Begwn De Triton , fel y gwelir mae gan Triton ychydig o binc ar ei arwyneb wedi ei achosi gan Nitrogen a Methan ar yr Arwyneb.

Neifion — Nodweddion EraillNeifion — Nodweddion Eraill
Wyneb

Tirwedd

Tirwedd Neifion Cawr wedi ei ffurfio gyda nwy , gyda dim ond cymylau llachar fel nodwedd arbennig .

Neifion — Tirwedd
Awyr y nos

Gweld o'r Ddaear

Gweld Neifion Ni fydd Neifion fyth yn weladwy i'r llygaid , ond gellir ei weld gyda ysbienddrych bach (binoculars) fel seren fechan iawn . Gall Neifion gael ei adnabod drwy ddilyn ei symudiadau . Trwy ysbienddrych mawr ( telisgope) bydd y blaned yn edrych fel disg di nodwedd . Gellir gweld isod , safle Neifion o 1998 hyd at 2009 yn yr awyr . Dyma sut y mae astronwyr a gwyddonwyr yn llwyddo i ddarganfod planedau pell .

Neifion — Gweld o'r Ddaear
Oriel

Lluniau

Lluniau o Neifion Yr unig Long-Ofod i archwilio Neifion yw Voyager 2 . Wrth archwilio'r Blaned canfyddodd Voyager 2 nodwedd arbennig ar y Blaned , sef y Smotyn Mawr Du yn hemisffer y de . Roedd y Smotyn Mawr Du hanner maint Smotyn Mawr Coch Iau , ac felly yr un mor fawr a'r Ddaear. Chwythodd gwyntoedd anferthol Neifion y Smotyn Du Mawr i'r Dwyrain ar gyflymder o 700 Milltir Yr Awr !Gellir gweld y Smotyn Mawr Du ar y dde. Mae gan Neifion hefyd Fodrwyon , fel Wranws , Iau a Sadwrn . Gwelwyd Fodrwyon bychain iawn o'r Ddaear ond gwelodd Voyager 2 Fodrwyon mawr cyfan. Mae gan un o'r Modrwyon droeadau rhyfedd ynddynt , gellir gweld hyn oddi ar y llun ar y dde. Fel Wranws a Iau mae gan Neifion Fodrwyon du ac mae ei cynnwys yn ddirgelwch i bawb.

Neifion — LluniauNeifion — Lluniau

Adnodd addysgol gwreiddiol o 1999, wedi'i adnewyddu ar gyfer dysgwyr heddiw.