Mawrth
Nodweddion Cyffredinol
Nodweddion Cyffredinol Mawrth Mae Mawrth yn blaned garegog sydd mewn rhai ffyrf yn debyg iawn i'r Ddaear. Mae maint y diwrnod yn 24 awr ac mae patrwm tymhorau yn debyg iawn i batrwm tymhorau sydd i'w gael ar y byd . Er dweud hyn mae gwahaiaethau mawr . Mae tymheredd ar y Blaned Mawrth yn isel iawn a dim ond weithiau y bydd yn codi yn uwch na'r rhewbwynt . Nid oes fawr ddim Ocsigen yn yr atmosffer . Mae'r blaned wedi ei gorchuddio gan anialwch mawr coch , felly o bryd i'w gilydd mae rhai yn galw'r blaned yn 'Blaned Goch.' O'r deiagram cyferbyn gellir gweld bod diamedr Mawrth ychydig o dan hanner diamedr y Ddaear. 6,794 km yw diamedr Mawrth .
Nodweddion Eraill
Nodweddion Daearyddol Mawrth Mae mawrth yn blaned sydd wedi ei rhannu yn ddwy , yn hemisffer y de mae'r tir uchel wedi ei ddifrodi gan Awyrfaenau . Ar y llaw arall yn hemisffer y gogledd mae'r tir yn wastad. Mae amyrw o Losgfynyddoedd , y mwyaf o'r rhain yw Olympus Mons sydd yn fynydd 600 Km o hyd a 27 km o uchel , ac yn aml wedi ei ei orchuddio gan gymylau gwyn a ellir eu gweld gyda ysbienddrych (telisgop) o'r Ddaear . Nodwedd arall anhygoel am y blaned hon yw y ceunant (canyon) sydd yn rhedeg hyd bellter o 4,000 km o filltiroedd . Mae'r Ceunant hefyd yn weladwy gyda ysbienddrych mawr . Mae arwyddion ar wyneb y blaned bod dwr wedi rhedeg ar un adeg drost wyneb y blaned. Atmosffer a Thywydd Mae atmosffer Mawrth yn cynnwys Carbon Deuocsid yn benaf . Mae'r atmosffer yn ysgafn iawn , ac mae'r gwasgedd ar wyneb y blaned yn 1% o'r gwasgedd yma ar y Ddaear ! Yn y gaeaf bydd y pegynau yn rhewi yn soled gyda rhew Carbon Deuocsid.

Tirwedd
Tirwedd Mawrth Pan fo Maweth agosaf at y Ddaear bydd yn bosibl gwneud allan rhai o'r nodweddion mawr ffisegol y Blaned. Mae'r ddau ddeiagram isod yn dangos arwyneb yr holl Blaned . Gelli'r gweld bod y blaned i gyd wedi ei mapio'n fanwl , ac mae llawer o hyn oherwydd bod Mawrth yn agos iawn at y Ddaear.

Gweld o'r Ddaear
Gweld Mawrth Mae Mawrth yn hawdd iawn ei gweld gyda'r llygaid yn yr hwyr . Bydd sbienddrych cyffredin (binoculars) yn dangos disg bychan iawn , ond bydd ysbienddrych (telescope) yn dangos disg mwy o lawer . Os bydd yr ysbienddrych (telescope) yn medru chwyddo 100 gwaith bydd y blaned yn edrych fel y mae'r Lleuad i'r llygaid . Wrth edrych ar y llun i'r chwith gellir gweld pa mo'r blaen yw Mawrth wrth edrych arnod gyda llygaid yn unig . Mawrth yw'r dotyn golau sydd i'r dde o'r eglwys . O edrych ar y blaned gyda ysbienddrych bychan (binoculars) gellir gweld y blaned ychydig yn gliriach . Mawrth yw y dotyn disglair o dan y clwstwr o ser eraill. Dyma lun o Mawrth a dynnwyd gyda ysbienddrych mawr (telisgope). Gellir geweld ei fod ychydig yn well na safon yr ysbienddrych bach.



Lluniau
Lluniau o'r Blaned Mawrth Y Llong-Ofod gyntaf i gyrraedd Mawrth oedd Mariner 4 yn 1965 . Ar ôl hyn dilynodd llawer o rai eraill yn cynnwys y ddwy Viking yn 1976 . Yn 1997 glaniodd Mars Pathfinder ar y Blaned , ac anfonodd y lluniau isod yn ôl i'r Ddaear .Dyma'r llun , ar y dde oddi ar y Mars Pathfinder yn 1997 . Gellir gweld y llong ofod ar waelod , ochr dde y darlun ar y dde . Olymous Mons:Y mynydd mwyaf yn Cysawd yr Haul yn codi 24 Km uwchben y tir o amgylch . Mae waelod yn fwy na 500 Km mewn diamedr .


Adnodd addysgol gwreiddiol o 1999, wedi'i adnewyddu ar gyfer dysgwyr heddiw.