Yn ôl i'r Planedau
Y Planedau

Gwener

Trosolwg

Nodweddion Cyffredinol

Nodweddion Cyffredinol Gwener Gwener yw'r blaned sydd ar maint agosaf ar y Ddaear , gan mai dim ond 650 Km yn llai na'r Ddaear yw ef .Gwener yw'r ail blaned oddi wrth yr Haul , a daw ar brydiau o fewn 40 Miliwn Km i'r Ddaear . Gwener yw'r gwrthrych disgleiriaf yn yr awyr heblaw am y Lleuad a'r Haul .O edrych ar y darlun uchod gallwn weld bod Gwener ychydig iawn yn llai na'r Ddaear . Gyda diamedr o 12,100 Km mae hyn ychydig iawn yn llai na'r Ddaear.

Gwener — Nodweddion Cyffredinol
Strwythur

Nodweddion Eraill

Nodweddion Daearyddol Gwener Mae'r rhan fwyaf o arwyneb Gwener wedi ei orchuddio gyda mynyddoedd a safnau sydd wedi eu ffurfio gan ddigwyddiadau Llosgfynyddoedd. Y rhan o dir mwyaf ar y Blaned yw Mynydd Montanes sydd 7 Milltir o uchder neu 11 Km . Mae hyn yn uwch o lawer na Eferest y mynydd mwyaf ar y Ddaear . Nid oes dwr ar y Blaned gan ei bod mor boeth . Atmosffer a Thywydd Mae Gwener wedi ei gau mewn cymylau o asid Swlffiwrig sydd oddeutu 60 Km uwch ben lefel y tir . O dan y cymylau mae'r atmosffer yn cynnwys Carbon Deuocsid pur . Mae pwer atmosfferig ar wyneb y blaned yn anhygoel , 90 gwaith y yn fwy na'r pwer atmosfferig yma ar y Ddaear. Mae tymheredd yn codi i 464 gradd Celciws oherwydd yr effaith ty gwydyr . Mae gwyntoedd ar wyneb y blaned yn fychan iawn , yn cyrraedd ychydig o Km yr awr ond yn y cymylau bydd y gwyntoedd yn gannoedd o Km yr awr . Fel y blaned ei hyn mae'r cymylau yn cylchdroi o'r Dwyrain i'r Gorllewin .

Gwener — Nodweddion Eraill
Wyneb

Tirwedd

Tirwdd Gwener Mae'r deiagram isod yn danos sut y byddai Gwener yn edrych heb y cymylau.

Gwener — Tirwedd
Awyr y nos

Gweld o'r Ddaear

Gweld Gwener Gellir gweld Gwener yn y bore neu gyda'r hwyr , mae hyn yn dibynnu'n fawr ar y tywydd yma ar y Ddaear . Bydd chwyddo y blaned 75 yn dangos y blaned yr un maint ar Lleuad o'r Ddaear . Gweld y blaned gyda Llygaid Mae Gwener bob amser yn agos at yr Haul ac fel arfer bydd yn ymddangos yn y gorwel . Mae ei ddisgleirdeb yn ei wneud yn hawdd i'w adnabod oddi wrth ser eraill.

Gwener — Gweld o'r Ddaear
Oriel

Lluniau

Lluniau o'r Blaned Gwener Dyma'r llun cyntaf erioed o arwyneb Gwener . Fe'i tynnwyd gan Long-Ofod yr Undeb Sofietaidd , neu Rwsia . Enw'r Llong-Ofod oedd Verena 9 , a hi oedd y cyntaf i lanio ar arwyneb unrhyw Blaned arall. Fel y gwelwn oddi ar y llun cyferbyn maeh gwyntoedd cryfion iawn (350 kph) yn y cymylau , ond ar yr arwyneb mae gwyntoedd ysgafn dim mwy na ychydig Gilomedrau yr awr. Mae data o Long-Ofod Magella yn dangos bod llawer o arwyneb Gwener wedi ei orchuddio gyda Llosgfynyddoedd fel y rhai sydd yn Hawaii.

Gwener — LluniauGwener — LluniauGwener — Lluniau

Adnodd addysgol gwreiddiol o 1999, wedi'i adnewyddu ar gyfer dysgwyr heddiw.