Mercher
Nodweddion Cyffredinol
Nodweddion Cyffredinol Mercher Mercher yw'r blaned agosaf i'r Haul ac oherwydd hyn hi yw'r anoddaf i'w gweld . Planed fach garregog yw Mercher gyda deiamedr hanner maint diamedr y ddaear. Gan ei fod wedi ei orchuddio gan safnau dwfn mae'r Blaned hon yn debyg o ran golwg i'r Lleuad. Yn y dydd bydd wyneb y Blaned yn cael ei losgi gan wres uchel iawn ond yn ystod y nos bydd y gwres yn syrthio yn llai na wynt rhewi . Oddi ar y deiagram uchod gellir gweld beth yw graddfa y ddaear o'i gymharu gyda Mercher. Mae Mercher yn gymharol fach gyda diamedr o ddim ond 4,880 Cilo Medr .
Nodweddion Eraill
Nodweddion Daearyddol Mercher Mae Mercher yn edrych yn debyg iawn i'r Lleuad gan bod arwyneb carregog y ddwy blaned wedi eu llunio gan safnau enfawr gan awyrfaenau . Dim ond 40 % yn fwy na diamedr y Lleuad yw Mercher felly mae hyn yn ffaith arall sydd yn debyg rhwng Mercher a'r Lleuad. Un gwahaniaeth mawr rhwng y ddau yw bod ochrau serth , hyd at 3 Km mewn rhai mannau yn rhedeg am ganoedd o filltiroedd. Mae rhai gwybodision yn tybo bod gan Mercher Gnewyllyn wedi ei wneud o haearn , ac mae'r cnewyllyn yma yn dri chwarter o'r holl blaned. Atmosffer a Thywydd Nid oes gwynt na dwr yn Mercher. Bydd arwyneb y blaned garregog yn cael ei gorchuddio gan ymbelydredd heulol , ac felly bydd gwres ar y blaned yn codi i 450 gradd celciws yn y ptynhawn ar y cyhydedd . Foddbynag bydd rhai cysgodion mewn Safnau ger y pegynau o dan y rhewbwynt drwy'r flwyddyn . Mae rhai yn credu bod rhew yn bodoli yno . Yn y nos bydd tymheredd y ddaeart yn syrthio i -180 gradd Celciws .

Tirwedd
Tirwedd Mercher Mae Tirwedd Mercher yn llawn o Safnau enfawr a ffurfwyd gan Awyrfaenau enfawr ar ddehrau'r Cysawd yr Haul .

Gweld o'r Ddaear
Gweld Mercher Allan o'r bump planed sydd yn weledol gyda'r llygaid o'r Ddaear , Mercher yw'r anoddaf i'w gweld , oherwydd ei fod yn agos i'r Haul bob amser . Rhaid defnyddio Sbienddrych i'w gweld fel arfer . Peidiwch byth ag edrych i gyfeiriad yr Haul gyda Sbienddrych , gan y gall ddifrodi eich llygaid neeu hyd yn oed eich gwneud yn ddall. Petaech yn defnyddio Sbienddrych arbenig sydd yn chwyddo 250 gwaith byddai Mercher yn edrych fel y Lleuad i rywyn ar y Ddaear . Mercher yn yr awyr yn yr hwyr Ar amseroedd arbennig yn y flwyddyn bydd Mercher yn edrych fel seren yn yr awyr . Yn y llun yma gellir ei weld uwch ben y goeden ac ychydig i'r chwith .
Lluniau
Lluniau o'r Blaned Mercher Tynnwyd y llun yma o Fercher gan Long-Ofod Mariner 10 , gyda dim ond 6 awr cyn iddi hedfan heibio'r blaned, ar Fawrth 29 1974. Mae'n dangos arwyneb Merhcer yn glir , a gellir gweld y safnau y mae'r Awyrfaenau yn eu creu ar arwyneb y Blaned .Cafodd y llun yma ei dynnu 5,380,000 kilometers (3,340,000 miles) oddi wrth y Blaned. Mae'r llun yma yn dangos y Safnau sydd ar arwyneb Mercher . Gellir gweld y Safnau yma yn gornel ochr dde y llun ar y chwith. Mae'r Safnau yma yn mesur oddeutu 40 kilomedr (25 miles) mewn diamedr. Mae'r Pelydrau gwyn sydd yn dod oddi wrth y Safnau yn dangos i ni bod y Safnau yma yn rhai ifanc iawn . Mae'r Pelydrau yn cael ei gwneud pan fo Awyrfaen yn taro'r arwyneb , a baw a llwch yn cael eu taflu allan yn belydrau hir gwyn .


Adnodd addysgol gwreiddiol o 1999, wedi'i adnewyddu ar gyfer dysgwyr heddiw.