Yn ôl i'r Planedau
Y Planedau

Iau

Trosolwg

Nodweddion Cyffredinol

Nodweddion Cyffredinol Iau Iau yw'r blaned fwyaf yn Cysawd yr Haul. Mae'r blaned yma'n pwyso dwy waith cymaint na'r holl blanedau eraill gyda'i gilydd . Mae'r blaned hon yn cylchdroi ar ei hechel yn gynt na unrhyw blaned aral hefyd , mae un diwrnod yn 10 awr ! . Mae arwyneb gweladwy Iau yn cynnwys Cymylau chwirliog , ac o dan yr haen yma mae hylif neitrogen a heliwm . Gallwn weld o edrych ar y diagram bod y Ddaear yn fach iawn o'i gymharu gyda Iau . Mae diamedr Iau yn 143,000 Km h.y 11 o weithiau yn fwy llydan na'r Ddaear.

Iau — Nodweddion Cyffredinol
Strwythur

Nodweddion Eraill

Nodweddion Daearyddol Iau Mae Iau wedi ei chau mewn cymylau sydd hyd at 1,000 Km o ddwfn . Mae cymylau gwahanol yn ffurfio ar wahanol lefelau yn dibynu ar y tymheredd ar gwasgedd, sydd yn codi wrth i'r uchder leihau . O dan y cymylau enfawr nid oes unrhyw soled , dim ond Hydrogen a Heliwm wedi eu cymwasgu i Hylif gan rym disgyrchiant enfawr Iau . Beltiau Cymylog a Stormydd Mae cylchdroad cyflym Iau yn achosi i'r cymylau ffurfio bandiau gwyn a thywyll . Mae'r Cymylau gwyn yn cael eu 'hachosi pan fo nwy cynnes yn codi , tra bo cymylau duon yn cael eu 'hachosi pan fo nwy yn oeri ac yn disgyn . Mae lliwiau y "Beltiau" yn amrywio o goch , i frown ac i las. Y nodwedd mwyaf ar y Blaned yw'r Smotyn Coch Enfawr , ar begwn De "belt" Cyhydedd y De. Mae' cwmwl chwirliog yma yn cylchdroi yn gyflym yn wrth glocwedd . Cafodd y llun cyferbyn ei dynnu gan Long Ofod "Galileio." Mae lliw y Smotyn yn goch oherwydd bod Phosfforws yn y Smotyn neu gompownd o Garbon . Lloer y Galileio Io yw'r Lloeren agosaf o holl Loer Galileio . Maent yn debyg iawn o ran maint i'n lleuad ni , gyda diamedr o 3,630 Km . Mae Io wedi ei orchuddio gyda Swlffwr Melyn - Oren ac yn llawn Llosgfynyddoedd sydd o hyd yn fyw . Europa yw'r lleiaf o'r pedwar Lleuad . Mae ei arwyneb yn feddal ag yn wastad ac yn debyg iawn i blisgyn wy . Mae gan Ganymede ddiamedr o 5,260 Km - dyma'r Lleuad mwyaf yn Cysawd yr Haul, ac mae'n fwy na Mercher. Mae arwyneb rhyfedd i'r Lleuad yma gyda rhannau yn dywyll a rhannau eraill yn olau iawn . Y Lleuad mwyaf allanol o'r honynt i gyd yw Callisto gyda diamedr o 4,800 Km .Mae rhannau tywyll y Lleuad yma yn cael eu hachosi gan Safnau dwfn iawn .

Iau — Nodweddion EraillIau — Nodweddion EraillIau — Nodweddion Eraill
Wyneb

Tirwedd

Tirwedd Iau Mae cymylau enfawr yn gorchuddio Iau , o hyd a bydd y cymylau yma ran amlaf yn cyfochri gyda'r cyhydedd.

Iau — Tirwedd
Awyr y nos

Gweld o'r Ddaear

Gweld Iau Iau yw'r blaned fwyaf diddorol i bobl sydd am edrych arni . Hi yw'r blaned ddisgleiriaf ar ôl Gwener er , ar brydiau bydd Iau yn ddisgleiriach na Gwener gan ei bod yn agosach . Mae Iau mor fawr hyd nes bod Ysbieddrych Bach (binoculars) yn ei dangos fel disg. Bydd Ysbienddrych Mawr (Telisgop bach) yn llwyddo i ddangos y cymylau mwyaf sydd ar y Blaned a bydd Ysbienddrych Enfawr (Telisgop Mawr) yn lwyddo i ddangos y nodweddion rhwng y cymylau . Drost gyfnod o 10 Munud gall y nodweddion yma ymddangos ei bod yn symyd . Dim ond 40 gwaith sydd angen ei chwyddo er mwyn iddo ymddangos mor fawr a'r Lleuad o'r Ddaear . Gellir gweld drwy edrych ar y llyniau isod y gwahanol olygfeydd a geir o Iau drwy ddefnyddio offer gwahanol .

Iau — Gweld o'r Ddaear
Oriel

Lluniau

Lluniau o'r Blaned Iau Mae tri haen o gymylau yn bodoli ar Iau , rhew amonia , amonia hydrosulfide a cymysgedd o rew a dwr . Mae'r haenau gwahano yma wedi ei tynnu gan Long Ofod , Galileio yn llwyddo i ddangos yn glir i ni dair gwahano haen sydd yn perthyn i Iau . Mae gan Iau fel Sadwrn, Fodrwyon bychain iawn yn ei amgylchynu .Canfyddwyd y rhain ar ddamwain , gan wyddonwyr a oedd yn gyfrifol am y llong-Ofod Voyager 1. Roeddent wedi gorffen astudio'r blaned a penderfynodd dau wyddonydd y byddain werth edrych am ychydig i weld os oedd Modrwyon yn bodoli ar Iau , ac yn wir i chi , roedd rhai , fel y gwelir ar y dde . Mae'r Smotyn Mawr Coch wedi cael ei ddynodi a'i weld gan astronwyr o'r Ddaear ers dros 300 o flynyddoedd . Cafodd y Smotyn Mawr Coch ei ddarganfod , gan Seryddwr o'r enw Cassini . Mae'r Smotyn yn hirgrwn oddeutu12,000 wrth 25,000 km, , digon mawr i ddal dau Ddaear. Mae Smotiau eraill llai wedi cael ei gweld hefyd ond y Smotyn Coch Mawr yw'r un mwyaf .

Iau — LluniauIau — LluniauIau — Lluniau

Adnodd addysgol gwreiddiol o 1999, wedi'i adnewyddu ar gyfer dysgwyr heddiw.